Fy Mro I
Mae pawb yn nabod pawb yn y stryd hon.
Pawb.
Maent yn siarad yn y stryd bob dydd – yr hen, yr ifanc, yr mamau gyda eue babanod a’r dynion ar draws y wal yr ardd.
Maen nhw nabod y dyn gyda’r wraig Newydd. Mae e’n tynnu tomatos yn yr haf, planhigion mawr fel weloch chi’n erioed. Mae e’n gweithio yn y dre – mewn rhyw swyddfa fawr…i’r llywodraeth…neur’ cwmni dŵr…neu rywbeth. Mae pawb yn ei adnabod.
Chlywodd neb dim byd yn y nos.
Ni welodd neb y cleisiau.
Ond gwyddai pawb.
Mae hi’n dawel, byddent yn dweud. Mae hi’n newydd. Bydd yn dod i wybod ffyrd yr ardal.
Yr haf nesa, mae’r tomatos yn tyfu fel na wnaethant o’r blaen. Yn fawr a llawn sudd. “Beth yw’r gyfrinach”, gofynodd pawb. “A phryd mae dy ŵr yn dod nôn o…Awstralia…oedd e?” Y wraig dawel – dim ond yn gwenu ac dweudodd “Sa i’n siwr. Mae e’n cael amser mor brysur gyda ei swydd newydd.”
“Wyt ti eisiau tomato arall”
Mae pawb yn nabod pawb yn y stryd hon.
*gyda diolch i Angharad Lewis am ei help